Telerau ac Amodau
Caiff gwefan Lleoedd Actif Cymru ei chynnal at eich defnydd personol. Wrth ddefnyddio’r safle rydych yn cytuno i’r Telerau a’r Amodau hyn sy’n weithredol o ddyddiad cyntaf eich defnydd. Ceidw Cyngor Chwaraeon Cymru’r hawl i newid y Telerau a’r Amodau hyn ar unrhyw adeg, drwy nodi’r newidiadau ar-lein.
Mae gan Gyngor Chwaraeon Cymru neu ei drwyddedwyr hawlfraint ar gynnwys y wefan hon. Cedwir pob hawl, yn cynnwys hawliau hawlfraint a bas data a phob hawl arall sy’n berthnasol i eiddo deallusol, ac eithrio’r hawliau trwyddedig cyfyngedig a ddyfernir isod.
Gellir atgynhyrchu cynnwys y wefan yn rhad ac am ddim ar unrhyw ffurf neu gyfrwng at ddefnydd personol heb fod yn fasnachol neu ddefnydd mewnol gan eich cwmni neu fusnes arall, heb gynnwys arddangos i neu ddefnydd gan gwsmeriaid yn talu. Mae hyn yn dibynnu ar atgynhyrchu’r Cynnwys yn fanwl gywir a heb ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Yn arbennig, ni ddylid addasu’r testun, y lluniau cysylltiedig na’r deunydd graffig mewn unrhyw ffordd, na’u gwahanu oddi wrth ei gilydd.
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar CPU sengl ar y tro ac argraffu copi caled sengl o unrhyw Gynnwys. Mae’n rhaid cynnal pob gweithgaredd yn faniwal, heb ddefnyddio meddalwedd awtomatig i sicrhau aml-fynediad neu unrhyw brosesu awtomatig arall mewn perthynas â’r Cynnwys.
Fel arall ni ellir lawrlwytho unrhyw Gynnwys na’i atgynhyrchu na’i storio mewn system adfer na’i drosglwyddo, ei werthu na’i gyhoeddi ar unrhyw ffurf na thrwy unrhyw gyfrwng, boed yn electronig, mecanyddol, llungopïo, recordio neu fel arall, heb ganiatâd Cyngor Chwaraeon Cymru ymlaen llaw.
I’r graddau y mae gennych hawl i atgynhyrchu unrhyw Gynnwys, mae’n rhaid i chi hefyd gynnwys mewn copïau o’r fath yr holl rybuddion hawlfraint, masnach-nod neu berchnogol arall a geir yn y Cynnwys.
Er ein bod yn ceisio sicrhau bod y wefan hon ar gael 24 awr y dydd fel rheol, ni fyddwn yn atebol os na fydd y wefan ar gael am unrhyw gyfnod o amser. Efallai na fydd y wefan ar gael dros dro ar rai adegau, a hynny heb rybudd.
Mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n ymdrechu’n rhesymol i sicrhau Cynnwys o ffynonellau dibynadwy a chadw’r Cynnwys yn rhesymol gywir, o edrych arno yn ei gyfanrwydd. Fodd bynnag, nid oes gan Gyngor Chwaraeon Cymru unrhyw gyfrwng ymarferol i ddilysu cyfrededd, cywirdeb na chyfanrwydd y Cynnwys yn systematig ac, yn anochel, bydd ynddo gamgymeriadau a hepgoriadau a bydd peth gwybodaeth wedi dyddio. Felly, nid yw Cyngor Chwaraeon Cymru’n cymeradywo nac yn cynrychioli cywirdeb na dibynadwyedd y Cynnwys o gwbl. Gwybodaeth gyffredinol yw’r Cynnwys ac nid yw’r defnydd i fod i roi sylw i’ch gofynion penodol ac nid yw’n argymhelliad o unrhyw fath gan Gyngor Chwaraeon Cymru. Ni ddylech ddibynnu ar y Cynnwys wrth wneud penderfyniadau penodol, yn enwedig penderfyniadau personol, ariannol neu fusnes pwysig. Rydych yn cytuno i holi pobl broffesiynol am gyngor sy’n benodol addas i’ch amgylchiadau arbennig chi.
Mae Cyngor Chwaraeon Cymru trwy hyn yn eithrio i’r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith unrhyw a phob gwarant, cynrychiolaeth, addewid a thelerau eraill o unrhyw fath, boed wedi’u mynegi neu’u hawgrymu, yn statudol neu fel arall, mewn perthynas â’ch defnydd chi o’r Cynnwys a’r wefan, yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i warant o ran ansawdd boddhaol, addasrwydd i bwrpas penodol, ymatal rhag tocyfraith, cymhathu, diogelwch a manwlgywirdeb.
Nid ydym yn gwarantu y bydd y swyddogaethau a geir yn y wefan hon, neu’r Cynnwys, heb ymyrraeth neu gamgymeriadau, y bydd diffygion yn cael eu cywiro neu bod y wefan hon neu’r gwasanaethwr sy’n sicrhau ei bod ar gael yn rhydd o firysau neu’n cynrychioli swyddogaeth, cywirdeb a dibynadwyedd llwyr y Cynnwys. Ni fyddwn dan unrhyw amgylchiadau’n atebol am unrhyw golled neu ddifrod, yn cynnwys, heb gyfyngiad, golledion neu ddifrod anuniongyrchol neu ganlyniadol, neu unrhyw golledion neu ddifrod yn codi mewn unrhyw ffordd bynnag o ddefnyddio neu golli defnydd o ddata neu elw’n codi o neu mewn cysylltiad â’r defnydd o’r wefan hon neu’r Cynnwys.
Nid yw Cyngor Chwaraeon Cymru’n gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd y gwefannau cysylltiedig. Ni ddylid ystyried rhestru fel cymeradwyaeth o unrhyw fath. Ni allwn warantu y bydd y cysylltiadau hyn yn gweithio bob amser ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros argaeledd y tudalennau.
Mae’r enwau, y delweddau, y lluniau a’r logos yn cyfeirio at Gyngor Chwaraeon Cymru neu Leoedd Actif Cymru’n nodau’n perthyn i Gyngor Chwaraeon Cymru. Ni chaniateir copïo ein logos nac unrhyw logos eraill gan drydydd personau a welir yn y wefan hon, heb gymeradwyaeth ymlaen llaw gan berchennog perthnasol yr hawlfraint.
Nid oes raid i chi ofyn am ganiatâd i gysylltu’n uniongyrchol i dudalennau’r wefan hon. Nid ydym yn gwrthwynebu i chi gysylltu’n uniongyrchol i’r wybodaeth yn ein gwefan. Mae’n rhaid i dudalennau Lleoedd Actif Cymru lwytho i ffenestr gyfan y defnyddiwr ac nid i fframiau yn eich gwefan. Fodd bynnag, nid ydym yn caniatáu defnyddio ein logo fel cyswllt heb ganiatâd ymlaen llaw.
Rydym yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi’r deunydd wrth ei gynhyrchu. Mae’n ddoeth bob amser i chi redeg rhaglen gwrth-firws eich hun ar bob deunydd a lawrlwythir o’r Rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw ddata a gollir neu a ddifrodir mewn unrhyw ffordd ar eich system gyfrifiadurol wrth i chi ddefnyddio Cynnwys o’r wefan hon.
Os ydych yn ddefnyddiwr gyda mynediad y cyhoedd yn gyffredinol, yn anhysbys, nid yw gwefan Lleoedd Actif Cymru’n storio nac yn cofnodi gwybodaeth bersonol, dim ond yn logio cyfeiriad IP y defnyddiwr, a adnabyddir yn awtomatig gan wasanaethwr y we. Nid ydym yn defnyddio cookies er mwyn casglu gwybodaeth am ddefnyddwyr ac ni fyddwn yn casglu unrhyw wybodaeth amdanoch chi, ac eithrio’r wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer gweinyddu system gwasanaethwr y we.
Os ydych yn dymuno bod yn ddefnyddiwr cofrestredig yn y wefan hon, efallai y gofynnir am wybodaeth bersonol i chi drwy’r wefan hon er mwyn manteisio ar wasanaethau fel tanysgrifiad i restri postio penodol. Dan amgylchiadau o’r fath, dim ond at ddibenion mewnol y defnyddir yr wybodaeth, i gyflwyno’r gwasanaethau yr ydych wedi gwneud cais amdanynt ac at ddiben ymchwil ac arolygu. Defnyddir data am ryw, anabledd neu oedran at ddibenion proffilio defnyddwyr yn unig. Bydd unrhyw wybodaeth o’r fath yn cael ei chadw ar wasanaethwr diogel ac ni fydd y data’n cael ei rannu gydag unrhyw drydydd personau, ac eithrio’r rhai’n ymwneud â darparu gwasanaeth Lleoedd Actif Cymru, heb eich caniatâd chi.
Os penderfynir bod unrhyw rai o’r Telerau a’r Amodau hyn yn anghyfreithlon, yn annilys neu’n amhosibl eu gweithredu am unrhyw reswm yn seiliedig ar ddeddfau gwladwriaeth neu wlad y mae’r Telerau a’r Amodau hyn i fod yn weithredol ynddi, yna i’r graddau ac oddi mewn i’r ddeddfwriaeth sy’n gwneud yr Amod dan sylw’n anghyfreithlon, yn annilys neu’n amhosibl i’w weithredu, bydd yn cael ei dorri a’i ddileu o’r cymal hwn a bydd y Telerau a’r Amodau’n weddill yn goroesi, gyda grym llawn, ac yn parhau’n rhwymedig a gweithredol.
Rheolir y Telerau a’r Amodau hyn gan ddeddfau Cymru a Lloegr ac fe’u lluniwyd yn unol â hwy. Bydd unrhyw anghydfod a gyfyd dan y Telerau a’r Amodau hyn yn ddarostyngedig i ddeddfwriaethau llysoedd Cymru a Lloegr.
Os na dderbynnir y Telerau a’r Amodau hyn yn llawn, nid oes gennych ganiatâd i weld Cynnwys y wefan hon ac felly dylech roi’r gorau i’w defnyddio ar unwaith.