Am y Data

CYFFREDINOL
Teitl Lleoedd Actif Cymru
Newid teitl bob yn ail Bas data o gyfleusterau chwaraeon yng Nghymru
Tarddiad Cyngor Chwaraeon Cymru
Abstract Mae Lleoedd Actif Cymru’n fas data sengl yn dal gwybodaeth am gyfleusterau chwaraeon ledled Cymru. Mae’n cynnwys gwybodaeth am y mathau a ganlyn o gyfleusterau chwaraeon: traciau athletau, lawntiau bowlio, cyfleusterau ffitrwydd, cyrsiau golff, rinciau iâ, athletau dan do, bowlio dan do, tenis dan do, llethrau sgïo, neuaddau chwaraeon, cyrtiau sboncen, stiwdios, pyllau nofio, caeau tyweirch synthetig, cyrtiau tenis. Mae’n cynnwys cyfleusterau hamdden awdurdodau lleol, cyfleusterau chwaraeon ysgolion, safleoedd masnachol a chlwb.
Lineage Crëwyd y data’n wreiddiol o gyfresi data gan Gyngor Chwaraeon Cymru a’r Leisure Database Company. Comisiynodd Cyngor Chwaraeon Cymru y gwaith o wirio’r data a chasglu gwybodaeth ychwanegol.
Adnodd ar-lein Ddim ar gael
 
GOFODOL
Bounding Coordinates
Gorllewin 100000
Dwyrain 500000
Gogledd 500000
De 100000
Graddfa  
Rhanbarth Cod Post  
Gwybodaeth am Raddfa Fertigol  
 
FFYNHONNELL DATA
Dyddiad Derbyn
Dyddiad Dechrau 1 Hydref 2007
Dyddiad Gorffen Parhaus
Diweddaru Amledd Blynyddol
Math o Gyflwyniad Map digidol a data
Rhwystr
Mynediad Hawlfraint. Gweler y telerau a’r amodau a gyhoeddir yn safle Mannau Actif Cymru.
Defnydd Hawlfraint. Gweler y telerau a’r amodau a gyhoeddir yn safle Mannau Actif Cymru.
Cyfrwng Cyflenwi Ddim ar gael
Fformat y Data Ddim ar gael
Ffynhonnell Wybodaeth Ychwanegol information@scw.org.uk
Cyflenwr Cyngor Chwaraeon Cymru
Gerddi Sophia
Caerdydd
CF11 9SW
information@scw.org.uk
Dyddiad Diweddaru’r Metadata 1 Chwefror 2008
Sampl o Gyfres Ddata Ddim ar gael
Iaith y Gyfres Ddata Cymraeg a Saesneg
 
CYFLEUSTER
Trac Athletau Trac rhedeg awyr agored 400m parhaol pob tywydd gyda lleiafswm o 4 lôn. Nid yw’n cynnwys traciau wedi’u marcio’n dymhorol na thraciau hyfforddi byr (200m) sydd wedi’u marcio ar gaeau Synthetig.
Sindr Traciau o ddeunydd heb ei rwymo, fel sindr. Mae’r categori hwn yn cynnwys Redgra (dresin agregau naturiol), siâl a ‘sindr real’.
Graswellt Parhaol Traciau wedi’u marcio’n barhaol ar laswellt. Nid yw’n cynnwys traciau rhedeg wedi’u marcio’n dymhorol yn ystod yr haf; dyna’r achos fel rheol gyda llawer o draciau ysgol.
Synthetig Traciau o ddeunydd acrylig o wneuthuriad dyn. Yr arwynebau’n rhoi gwell clustog i’r rhedwr a dyma’r trac mwyaf modern. Mae traciau synthetig yn graddol gymryd lle traciau sindr a glaswellt. Gelwir yr arwyneb hwn yn 'Tartan' hefyd.
Lawnt Fowlio Glaswellt neu laswellt artiffisial parhaol ar gyfer bowlio. Yr arwyneb wedi’i amgylchynnu gan ffos fel rheol.
Lawnt Coron Lawnt fowlio gyda chambr, uchder uchafswm o 254mm yng nghanol y lawnt.
Lawnt Wastad Sgwâr bowlio gwastad, 37-40m fel rheol.
Golff Y cyrsiau golff i gyd yn lleiafswm o 9 twll, a maes gyrru.
Maes Ymarfer Yn cynnwys baeau gyrru gyda a heb gysgod. Mae’n rhaid i’r maes fod â lleiafswm o 10 bae gyrru. Y defnyddiwr yn llogi peli fesul bwced, heb adfer y peli. Nid yw’n cynnwys mannau ymarfer mewn cyrsiau golff.
Par 3 Tyllau byrrach na chwrs safonol, gyda phob twll yn dwll Safon 3.
Safonol Cwrs safonol gyda lleiafswm o 9 twll.
Ystafell Ffitrwydd Fel rheol, lleiafswm o 20 gorsaf, ond efallai y cynhwysir rhai ystafelloedd iechyd a ffitrwydd.
Rinc Iâ Rinciau iâ safonol i gyd. Ddim yn cynnwys rinciau iâ dros dro.
Athletau Dan Do Trac rhedeg dan do parhaol; lleiafswm o 50m a rhedfa.
Bowlio Dan Do Cyfleuster dan do parhaol yn cynnwys lawnt fowlio gyda charped. Yn gallu bod yn ganolfan fowlio bwrpasol neu’n safle bowlio penodol mewn cyfleuster chwaraeon. Mae’n rhaid i’r lawnt fowlio fod wedi’i chreu’n benodol ar gyfer bowlio. Nid yw’n cynnwys mat byr, a osodir dros dro mewn neuaddau aml-bwrpas.
Tenis Dan Do Cyrtiau tenis dan do, yn cynnwys strwythurau tenis dan do ar eu pen eu hunain, canolfannau tenis a adeiladwyd i bwrpas a chyrtiau dan do cysylltiedig â chyfleusterau chwaraeon eraill, fel clybiau chwaraeon. Dim ond yn cynnwys cyrtiau tenis dan do penodol, nid neuaddau aml-ddefnydd.
Neuadd Awyr Strwythurau di-ffrâm sydd angen eu chwythu i fyny i ffurfio eu siâp. Cyfeirir atynr yn gyffredinol fel ‘Awigod'. Gallant fod dros gyrtiau awyr agored cyfredol.
Neuadd Awyr (tymhorol) Fel uchod, ond yn cael eu codi am ran o’r flwyddyn yn unig.
Ffabrig gyda Ffrâm Ffrâm ddur wedi’i gorchuddio â ffabrig. Strwythur parhaol heb fod angen ei chwythu i fyny.
Traddodiadol Strwythur parhaol heb fod yn ffabrig. Ffrâm ddur / bren draddodiadol a strwythur bloc.
Llethr Sgïo Llethr ar gyfer sgïo; gall y llethrau naturiol fod yn dymhorol. Ddim yn cynnwys traciau sgïo traws-gwlad.
Dan Do Llethr sgïo dan do; dôm eira
Awyr Agored Artiffisial Llethr artiffisial awyr agored parhaol
Awyr Agored Naturiol Llethr sgïo awyr agored tymhorol; mae’n rhaid wrth gyfleuster towio.
Neuadd Chwaraeon Neuadd aml-chwaraeon dan do lle mae amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon a hamdden yn cael eu cynnal. Mae’n rhaid i un neuadd ar bob safle allu rhoi lle i o leiaf ddau gwrt badminton, yn cynnwys y safle diogelwch o’u hamgylch. Yn cynnwys neuaddau chwaraeon a gynlluniwyd i bwrpas, fel canolfannau hamdden a neuaddau chwaraeon ysgol, a neuaddau ychwanegol ble gellir cynnal gweithgareddau, fel neuaddau gwasanaethau boreol, adeiladau cymunedol a neuaddau pentref. Nid yw canolfannau arbenigol, e.e. canolfannau dawns, wedi’u cynnwys.
Neuadd Weithgarwch Neuadd aml-chwaraeon ble cynhelir gweithgareddau ond nad yw’n cymhwyso fel prif neuadd a heb fod yn stiwdio a adeiladwyd i bwrpas. Ar safle ble ceir neuadd chwaraeon arall, naill ai heb ei marcio ar gyfer chwaraeon neu ddim digon mawr i fod yn brif neuadd. Ar safle ble nad oes neuadd chwaraeon arall, nid yw wedi’i marcio ar gyfer chwaraeon ond mae’n rhaid iddo fod yn faint 2 gwrt badminton o leiaf.
Prif Prif neuadd(au) aml-chwaraeon mewn safle. Rhaid iddi allu cynnwys dau gwrt badminton, yn cynnwys y man diogelwch o amgylch, ac mae’n rhaid iddi fod wedi’i marcio ar gyfer chwaraeon.
Cwrt Sboncen Cwrt(cyrtiau) a adeiladwyd i bwrpas ar gyfer chwarae sboncen.
Stiwdio Stwidio a adeiladwyd i bwrpas ble cynhelir amrywiaeth o weithgareddau, fel aerobics, ioga, troelli, chwaraeon ymladd etc. Fel rheol, mae llawr sbring iddi a / neu ddrychau. Mae’n rhaid iddi fod ar safle gyda chyfleusterau Mannau Actif arall.
Pwll Nofio Man amgaeëdig o ddŵr, yn cael ei gynnal yn benodol ar gyfer pob math o chwaraeon a hamdden dŵr. Yn cynnwys nofio cyffredinol, dysgu, hyfforddi, deifio, defnydd clwb a defnydd ysgol. Yn cynnwys pyllau dan do ac awyr agored, pyllau hamden rhydd, tanciau deifio. Os yw rhan o’r pwll yn cael ei gau i ffwrdd fel rheol fel rhan bwrpasol o’r prif danc petryal, e.e. adran ddeifio oddi ar y prif bwll, mae’n cael ei drin fel pwll ar wahân.
Deifio Dan do yn unig. Pwll penodol ar gyfer deifio. Pyllau sgwâr fel rheol ac yn ddyfnach na’r prif byllau.
Dysgwr-Hyfforddi Dan do yn unig. Naill ai’n llai na 15m o hyd neu’n bwll eilradd ar safle. Llai a basach yn gyffredinol na’r prif bwll, a phetryal yn draddodiadol. Man gyda stepiau / bas ar gyfer babanod efallai.
Pwll Hamdden Dan do yn unig. Pwll rhydd, ar dro ym mwyafrif y safleoedd. Ar gyfer nofio anffurfiol ma’r rhain fel rheol a gallant gynnwys sleidiau, traethau, jetiau dŵr, peiriant tonnau ac ati. Efallai fod rhai pyllau hamdden wedi’u cynllunio fel bod modd nofio lonydd, mewn rhan benodol o’r pwll. Mae’r pyllau hyn yn cael eu dosbarthu fel pyllau ‘hamdden’ lle mae mwyafrif ei ochrau’n rhyddsiâp.
Lido Pwll awyr agored cyhoeddus.
Prif-Cyffredinol Dan do yn unig. Prif bwll(byllau) ar y safle. Lleiafswm o 15m o hyd. Rhaid i’r pwll fod yn danc petryal traddodiadol. Os oes gan y prif bwll sleidiau, os yw’r pwll yn siâp petryal, mae’n cael ei ddosbarthu fel y Prif Bwll neu’r Pwll Cyffredinol.
Cae Synthetig Opsiwn arall yn lle glaswellt, yn darparu arwyneb bob tywydd ar gyfer chwaraeon cae, yn enwedig hoci a phêl droed. Rhaid i’r caeau fod yn lleiafswm o 75m x 45m. Nid yw’n cynnwys arwynebau tyweirch eraill, fel tarmac, concrid, Redgra (dresin agregau naturiol).
Briwsion Rwber (3G) Carped 50mm-65mm o drwch gyda naddion rwber / tywod. Yn cael eu galw’n gaeau ‘Trydydd Cenhedlaeth’ fel rheol. Yn cael eu defnyddio’n bennaf ar gyfer pêl droed, addas i chwaraeon eraill hefyd, fel rygbi.
Sylfaen Tywod Carped 20-25mm wedi’i lenwi â thywod gradd dros bad sioc rwber a sylfaen beirianegol. Yr arwyneb mwyaf cyffredin ar gyfer CTS, a ddefnyddir yn benodol ar gyfer hoci a phêl droed, ond yn addas i weithgareddau eraill hefyd, fel Pêl Droed Americanaidd, Lacrosse a hyfforddiant Rygbi ac Athletau.
Sylfaen Dwr Tebyg o ran trwch i sylfaen tywod, arwynebau chwaraeon synthetig trwchus iawn yn cael eu dyfrio gan ddŵr. Rhyw fath o is-garped hefyd / pad sioc, yn ganolog weithiau. Mae’r carped neu’r pad wedi’i greu i ddal llif y dŵr ar gyfradd benodol. Dyma’r arwyneb gorau ar gyfer hoci ac fe’i defnyddir mewn gemau o’r safon uchaf.
Cwrt Tenis Wedi’u marcio ar gyfer tenis yn unig a rhaid cael o leiaf un cwrt maint llawn gydag ymylon diogelwch a ffensys. Gellir cael llifoleuadau.