Amdanom Ni
Mae Lleoedd Actif Cymru’n cynnwys gwybodaeth am amrywiaeth eang o gyfleusterau chwaraeon yn y sectorau cyhoeddus, gwirfoddol a masnachol.
Y cyfleusterau a geir yma ar hyn o bryd yw:
| Neuaddau Chwaraeon | Pyllau Nofio | Caeau Tyweirch Synthetig |
| Cyrtiau Sboncen | Cyrtiau Tenis | Traciau Athletau |
| Cyrsiau Golff | Meysydd Gyrru Golff | Lawntiau Bowlio |
| Cyfleusterau Ffitrwydd | Stiwdios | Rinciau Iâ |
| Llethrau Sgïo | Athletau Dan Do | Bowlio Dan Do |
| Tenis Dan Do |
Mynediad i’r cyfleusterau’n perthyn i dri phrif gategori:
Talu a Chwarae - lle gall aelodau’r cyhoedd gyrraedd a thalu ffi am ddefnyddio’r cyfleuster;
Aelodaeth Gofrestredig - lle mae’n rhaid i aelodau’r cyhoedd dalu ffi gofrestru i ddefnyddio’r cyfleuster (e.e. aelodaeth o glwb ffitrwydd);
Clwb Chwaraeon neu Gymdeithas Gymunedol - lle mae defnydd o’r cyfleuster yn dibynnu ar y defnyddwyr yn aelodau o glwb neu gymdeithas chwaraeon benodol.
