Lleoedd Actif Cymru, yn helpu pobl i fod yn actif
Mae'r wefan hon yn cynnwys gwybodaeth am tua 2,000 o gyfleusterau chwaraeon
yng Nghymru - o neuaddau chwaraeon i gyrsiau golff, ac o byllau nofio i
gyfleusterau ffitrwydd. Mae'n cynnwys cyfleusterau a ddarperir gan Awdurdodau
Lleol, Clybiau Chwaraeon a'r Sector Masnachol.
Gallwch Chwilio am gyfleusterau mewn nifer o ffyrdd gwahanol, yn cynnwys: chwilio yn eich ardal leol, defnyddio enw cyfleuster penodol neu chwilio ar fap rhyngweithiol. Ceir Cymorth a chyngor ynghylch sut i gael hyd i'r hyn rydych ei angen.
Yn ogystal â dangos i chi ble i gymryd rhan, mae Lleoedd Actif Cymru hefyd yn darparu cyswllt â gwybodaeth arall am chwaraeon yng Nghymru.




